1. Rhaid cael dawn ieithyddol er mwyn dysgu iaith tramor.
Er fy mod i’n credu bod yna fath beth â dawn ieithyddol, gydag amlieithwyr fel Alex Rawling yn siarad 11 iaith yn ifanc a Tim Doner o Efrog Newydd yn meistroli 23 ymhlith y rhai mwyaf galluog, mae’r farn taw elît bach yw’r unig rai sy’n gallu dysgu ieithoedd yn gred sydd mwyaf cyffredin mewn cymunedau unieithog. Mae nifer o wledydd y byd gyda nifer o ieithoedd, ac mae pobl, yn cynnwys rhai heb lawer o addysg, yn eu dysgu i safon uchel. Yn Ne Affrica, er enghraifft, mae yna 11 iaith swyddogol ac mae’r De Affricanwr cyffredin yn siarad o leiaf 2 neu 3 iaith, ac efallai yn deall un arall. Mae 98% o drigolion Lwcsembwrg yn medru siarad o leiaf 2 iaith, a 95% yn Latfia. Mae 54% o boblogaeth yr UE yn medru siarad iaith yn ogystal â’u hiaith gyntaf, a 25% yn siarad dwy iaith ychwanegol.
2. Mae ieithoedd yn anodd iawn.
Dydw i ddim yn honni fod dysgu iaith newydd ddim yn heriol, ond mae yna gamdybiaeth, yn enwedig yma yn y DU, bod ieithoedd yn rhai o’r pynciau mwyaf anodd yn yr ysgol. Yn nifer o wledydd eraill, mae ieithoedd yn cael eu hystyried fel y dewis hawdd, dim ond gwyddoniaeth a mathemateg sy’n cael eu gweld yn anodd. Wrth gwrs, mae yna wahaniaeth rhwng dysgu iaith sy’n debyg i’ch iaith gyntaf ac un sy’n wahanol iawn, ond mae gan bob iaith ei hudoliaeth a’i heriau ac mae i fyny i’r dysgwyr i ddewis yr un mwyaf addas am eu hanghenion nhw.
3. Dim ond plant bach sy’n gallu siarad iaith newydd yn rhugl
Mae termau technegol fel ‘yr oedran allweddol’ a ‘niwroplastigedd’ yn cael eu defnyddio gan bobl sy’n credu bod ein gallu ieithyddol yn gostwng pob dydd ac yn syrthio pan gyrhaeddwn aeddfedrwydd. Mae’n wir fod plant yn gallu datblygu acen frodorol yn iaith maent yn dysgu fel babanod, a bod diffyg swildod yn caniatáu iddynt ymgolli mewn gweithgareddau mewn ffordd sy’n anodd i oedolion. Er hyn, mae rhai yn credu ei bod yn haws i oedolyn i ddysgu iaith newydd – mae oedolyn yn medru deall ac amsugno gramadeg, geirfa a dywediadau yn haws ac yn gallu gweld patrymau. Mae gan oedolion eirfa fwy eang yn eu hiaith gyntaf na phlentyn 7 mlwydd oed, mantais ar gyfer deall ieithoedd eraill, yn enwedig rhai o’r un teulu ieithyddol. Gall dysgwyr hŷn fod yn fwy brwdfrydig – mae oedolion yn aml eisiau dysgu iaith am reswm penodol, p’un ai twristiaeth, gwaith, er mwyn ymfudo neu fel her bersonol, ac mae ganddynt olwg fwy clir o’u diddordebau penodol.
4. Does dim pwrpas dysgu iaith arall achos mae pawb yn siarad Saesneg
Saesneg yw’r iaith bennaf yn nifer o ardaloedd yn cynnwys busnes a diwylliant poblogaidd. Er hyn, mae globaleiddio a thwf gwledydd datblygol yn golygu bod ieithoedd eraill yn dod yn fwy perthnasol nag erioed, nid yn unig o safbwynt ehangu gorwelion, ond o safbwynt economaidd hefyd. Yn 1996 roedd 75% o gynnwys y rhyngrwyd yn Saesneg, heddiw mae 75% o gynnwys y rhyngrwyd yn ieithoedd heblaw Saesneg, ac mi fydd y gyfran yn codi wrth i ddefnydd y rhyngrwyd ddod yn fwy cyffredin ledled y byd. Cofiwch fod oddeutu 5 biliwn o bobl yn y byd sydd ddim yn medru siarad Saesneg o gwbl.
5. Mae dysgu iaith yn cymryd gormod o amser
Dydy’r un yma ddim yn gamdybiaeth lwyr – mae hi’n cymryd rhywfaint o amser ac ymdrech i ddysgu iaith, ond efallai ddim cymaint â fyddech chi’n ei ddisgwyl. Amcangyfrifir bod siaradwyr Saesneg sydd byth wedi astudio Ffrangeg yn barod yn gwybod tua 15,000 o eiriau Ffrangeg – dyna fantais enfawr. Mae Almaeneg ac ieithoedd Germaneg eraill hefyd yn rhannu digon o eirfa â Saesneg, er bod y gramadeg yn eithaf gwahanol. Fel y dywedir uchod, mae oedolion yn gallu dysgu yn gynt na phlant, felly peidiwch â gadael i’ch profiadau ysgol eich atal chi rhag dysgu fel oedolyn. Beth am drio gwersi personol neu mewn grwpiau llai, cyrsiau dwys neu reolaidd sy’n canolbwyntio ar y pethau yr hoffech chi eu dysgu, fel y cyrsiau mae BLS yn cynnig? Neu gallech chi blymio mewn i fywyd yn y wlad am flwyddyn er mwyn dysgu’r iaith. Mae amcangyfrifon o faint o amser mae’n cymryd i ddysgu rhai o brif ieithoedd y byd ar gael, wedi’u seilio ar brofiad Gweinyddiaeth Dramor yr UDA, er wrth gwrs bydd rhyw faint o amrywiaeth o un unigolyn i’r llall.
Os ydych am ddysgu iaith newydd, cysylltwch â ni ynghylch ein cyrsiau pwrpasol ac fe wnawn ni eich cynghori am y dewis orau i chi.