Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru eleni yn Llanelli, Sir Gâr. Bydd yr ŵyl, sydd i gychwyn ar y cyntaf o Awst, ac yn para am naw diwrnod, yn gweld cannoedd o bobl ar draws Gymru gyfan yn casglu er mwyn cystadlu mewn ystod eang o gystadlaethau – o ganu i´r celfyddydau gweledol.
Mae´r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad diwylliannol blynyddol sy´n dathlu ac yn annog y defnydd o´r iaith Gymraeg. Ym 1861, cynhaliwyd yr Eisteddfod fodern cyntaf un yn Aberdâr, ac er gwaethaf y problemau economaidd mae´r ŵyl yn ei wynebu yn ddiweddar, mae´r Eisteddfod Genedlaethol yn parhau i deithio o amgylch y wlad pob blwyddyn, gan greu tonnau o ymwybyddiaeth at ddiwylliant Cymru a gadael ar ei ôl teimladau cryf o wladgarwch.
Mae´r Eisteddfod yn uno pobl o bob oed mewn dathliad o iaith, diwylliant a thraddodiadau. Ei chryfder yw ei bod hi’n medru cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau, o wahanol gystadlaethau i stondinau a chyngherddau, gan ddenu pobl o amrywiaeth o gefndiroedd a gan roi´r cyfle i bawb medru trochi eu traed mewn môr o ddiwylliant Cymraeg.
Serch hynny, dydy llwyddiant yr Eisteddfod ddim yn gyfyngedig i Gymru. Yn wir, mae´n ŵyl sydd erbyn hyn wedi cyrraedd cyfandiroedd eraill hefyd. Dethlir yr Eisteddfod yng ngorllewin yr Unol Daleithiau hefyd. Yma, caiff y cystadleuwyr gystadlu trwy´r Saesneg yn ogystal â´r Gymraeg. Mae´r Wladfa yn ne´r Ariannin hefyd yn dathlu fersiwn ei hun o´r Eisteddfod ym mis Hydref. Cynhelir cystadlaethau yn yr Eisteddfod yma, gan gynnwys cystadleuaeth mewn cyfieithu, yn y Gymraeg ac yn Sbaeneg. Mae ei ddwyieithrwydd yn denu cystadleuwyr ar draws yr Ariannin a thu hwnt.