Am ddysgu rhagor am y bobl y tu ôl i’r e-byst a’r galwadau ffôn? Erioed wedi meddwl am y sgiliau sydd eu hangen i ddilyn gyrfa yn y diwydiant cyfieithu? Yn ein cyfres Dewch i Gwrdd â’r Tîm, rydym yn cyflwyno tîm Business Language Services (BLS), gan roi golwg agosach i chi ar eu rolau a sut maen nhw’n cyfrannu at lwyddiant y tîm.
Y mis hwn byddwn yn cwrdd â’n Uwch Swyddog Iaith (Y Gymraeg), Sarah.


Alli di gyflwyno dy hun a disgrifio dy rôl bresennol?
Sarah ydw i a fi yw Uwch Swyddog Iaith Business Language Services. Rwy’n cydlynu ein gwasanaethau Cymraeg, gan weithio â’r tîm rheoli prosiectau ac ieithyddion mewnol ac allanol i ddarparu cyfieithiadau o ansawdd uchel i’n cleientiaid. Pan nad ydw i’n cyfieithu neu’n prawfddarllen, byddaf yn gweithio ar hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a deddfwriaeth berthnasol.
Pa ieithoedd wyt ti’n gweithio gyda nhw a sut wyt ti wedi datblygu hyfedredd ynddyn nhw?
Rydw i bellach yn canolbwyntio’n bennaf ar gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg, ond mae fy nghefndir mewn ieithoedd modern. Mae gen i BA mewn Ffrangeg ac Eidaleg ac MA mewn Astudiaethau Cyfieithu, ac rwy’n dal i ddysgu bob dydd. Yn ddiweddar, llwyddais i arholiadau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, gan ennill Aelodaeth Sylfaenol a Gwobr Berwyn am yr ymgeisydd mwyaf addawol am gyfieithu i’r Saesneg.
Beth oedd dy gefndir cyn y rôl hon, a sut wnaeth hynny dy baratoi ar gyfer dy swydd bresennol?
Rydw i wedi bod gyda BLS am bron i ddegawd bellach, ac mae fy rôl wedi esblygu’n sylweddol dros fy amser yn y cwmni. Ymunais fel Rheolwr Prosiect ar ôl gorffen fy astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd ac rydw i hefyd wedi gweithio fel Uwch Gydlynydd Prosiectau ac Uwch Swyddog Ansawdd.
Rhoddodd hyn mewnwelediad i fi i’r llif gwaith cyfieithu llawn, o’r briff i gyflwyno’r gwaith terfynol, ac mae wedi bod yn allweddol wrth lunio sut rwy’n mynd ati i gyfieithu. Rwy’n credu y dylai pob cyfieithydd fod â phrofiad o reoli prosiectau, a dylai pob rheolwr prosiect fod yn ieithydd hefyd. Dyma sy’n gwneud BLS mor arbennig a pham rydyn ni’n gallu darparu profiad mor ddi-dor i’n cleientiaid a’n hieithyddion.
A oedd unrhyw brofiadau penodol (e.e., astudio dramor neu swyddi blaenorol) a helpodd i dy baratoi ar gyfer y rôl hon?
Treuliais chwe mis yn astudio yn Ysgol Gyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd fawr ei bri Geneva a roddodd gipolwg gwych i mi ar y diwydiant. Treuliais chwe mis yn Catania hefyd, a oedd yn amhrisiadwy wrth wella fy sgiliau iaith a fy nealltwriaeth ddiwylliannol. Dysgodd y profiadau ymdrochol hynny i mi sut mae iaith yn gweithio yn y byd go iawn, sy’n rhywbeth na allwch chi ei werthfawrogi’n llawn mewn ystafell ddosbarth.
Alli di ddisgrifio diwrnod nodweddiadol yn BLS?
Mae pob diwrnod yn dechrau gydag adolygu fy mhiblinell prosiectau ac unrhyw geisiadau newydd sydd wedi dod i mewn dros nos. Yna rwy’n gosod fy mlaenoriaethau ar gyfer y diwrnod yn seiliedig ar derfynau amser. O’r fan honno, mae pob diwrnod yn wahanol. Gyda chynifer o brosiectau’n digwydd yn gydamserol, rwy’n rheoli amser yn llym iawn, ac yn hoffi trefnu popeth fesul awr a’i godio yn ôl lliw. Rwy’n treulio rhan fwyaf y diwrnod yn cyfieithu dogfennau, yn prawfddarllen i sicrhau cywirdeb, ac weithiau’n gweithio ar gwestiynau terminoleg neu faterion fformatio gyda chydweithwyr. Mae’n gydbwysedd o waith annibynnol a datrys problemau ar y cyd.
Beth yw’r rhan orau o dy swydd?
I fi, y peth gorau yw dod o hyd i ddatrysiadau creadigol i broblemau cyfieithu, felly rydw i wrth fy modd yn gweithio ar gopi marchnata, cerddi, a hyd yn oed geiriau caneuon. Mae’r eiliad o ysbrydoliaeth yn rhoi boddhad enfawr. Ac mae bob amser yn wych cael gweithio ar ffilm fawr!
Beth yw rhai o’r heriau mwyaf rydych chi’n eu hwynebu yn y diwydiant?
Mae cynnydd AI a Chyfieithu Peirianyddol yn her rydyn ni’n ei hwynebu fwyfwy – neu, a bod yn hollol fanwl, camsyniadau pobl am yr hyn y gall AI ei gyflawni. Er fy mod i’n credu y dylai gweithwyr proffesiynol profiadol ddefnyddio’r offer sydd ar gael i ni i wella cyflymder a chysondeb, mae rhoi’ch testun mewn peiriant yn sicr o wneud llanast ohoni! Mae arlliwiau iaith a’i chysylltiadau dwfn â diwylliant mor gymhleth fel na all AI ddisodli bodau dynol.
Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i rywun sy’n ystyried rôl fel dy un di? A oes unrhyw sgiliau penodol sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes cyfieithu?
Mae sgiliau trefnu a rheoli amser yn hanfodol wrth gydbwyso cynifer o brosiectau, ond mae bod yn hyblyg ac yn addasadwy yr un mor bwysig. Prin y bydd diwrnod yn mynd heibio heb gleient sydd wedi anghofio rhywbeth brys y mae angen ei flaenoriaethu dros bopeth arall, felly mae’n hollbwysig gallu darparu ar gyfer ceisiadau munud olaf heb golli momentwm.
I ddysgu rhagor am y tîm, ewch i https://businesslanguageservices.co.uk/meet-the-team/.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda ni? Ewch i https://businesslanguageservices.co.uk/work-for-us/.