Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2014

Ar yr wythfed o Fawrth, bydd dynion a menywod ledled y byd yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i ddathlu cyflawniadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod y gorffennol, presennol a’r dyfodol, yn ogystal ag ystyried yr ardaloedd le mae anghydraddoldebau yn parhau. Mae sefyllfa menywod wedi gwella yn sylweddol ers y Diwrnod Rhyngwladol y Menywod cyntaf dros gan mlynedd yn ôl yn 1911.

Yn draddodiadol, dynion oedd yn cael eu gweld fel y bobl goruchafol, ac mae ieithoedd yn adlewyrchu’r ffaith hwn. Mae rhai ysgrifenwyr yn parhau i ddefnyddio’r gair ‘dyn’ i gyfeirio at unrhyw bod dynol. Dadl y ffeminyddion yw, p’un ai gyda phrif lythyren neu beidio, mae’r gair ‘dyn’ yn awgrymu person gwrywaidd ac mi fyddai brawddeg fel ‘Mae dyn yn bwydo ei blant ar y fron’ yn un rhyfedd.

Mae ieithoedd lle mae cenedl ar yr enwau yn achosi hyd yn oed fwy o broblemau i’r rhai sydd yn hybu cydraddoldeb rhywiol. Fel y byddwch yn gwybod fel siaradwyr Cymraeg, er bod dau fachgen a dwy ferch, mae cymysgedd o un bachgen ac un ferch yn parhau i fod yn ddau. Yn yr un modd, yn Ffrangeg le masculin l’emporte sur le féminin – caiff unrhyw grŵp cymysg ei ystyried yn wrywol o safbwynt gramadegol. Mae gweithredwyr hawliau menywod wedi ceisio herio hwn, gan fynnu er enghraifft ar y fersiwn hirach chers et chères collègues yn hytrach na chers collègues ar gyfer ‘annwyl gydweithwyr’. Yn ogystal, mae llywodraeth Ffrainc wedi gwahardd y defnydd o mademoiselle ar ffurflenni swyddogol, gan fynnu i bob menyw cael ei galw’n madame beth bynnag ei statws priodasol. Yn Sbaeneg, padre yw tad, madre yw mam, ond padres yw rhieni, yr un gair â thadau. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe ddefnyddiodd Gweinidog Cydraddoldeb Sbaen y gair miembra am aelod benywaidd gan wneud ei hun yn destun siarad pan wnaeth critigiaid nodi fod miembra yn anghywir ac y dylid defnyddio miembro ar gyfer dynion a menywod, er ei fod yn enw gwrywaidd yn ramadegol. Beth bynnag eich barn chi, dymunwn ni Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod hapus i bawb!