Mae rhestr ddifyr o eiriau llafar Saesneg cyfredol yn rhan o ychwanegiad mis Awst i fersiwn ar-lein geiriadur enwog Saesneg Rhydychen. Casglwyd y geiriau hyn trwy system hel ar-lein a gan y Reading Programme, gyda’r bwriad o ddod o hyd i eiriau ffasiynol newydd ac i fonitro newidiadau mewn tueddiadau’r iaith.
Mae’r rhestr yn cynnwys geiriau fel clickbait, i fynegi medru tynnu sylw ac ymwelwyr tuag at wefan, yr ansoddair poblogaidd amazeballs, y ferf mainsplain, pan mae dyn yn esbonio rhywbeth mewn modd sy’n bychanu, a’r acronym YOLO, sy’n dod o’r Saesneg am ‘Rwyt ti ond yn byw unwaith’.
Maen nhw’n gymysgedd o eiriau sydd yn dod i’r golwg gyda’r newid yn y ffordd rydym ni’n cyfathrebu a thrwy ddylanwadau eraill yn y cyfryngau. Wrth i rai gwefannau cymdeithasol cyfyngu’r nifer o lythrennau y fedr eu defnyddio, caiff geiriau eu byrhau, ac mae geiriau byrion yn haws i’w teipio. Caiff geiriau eraill eu dylanwadu gan gerddoriaeth rap a phop neu gan raglenni teledu realiti.
Mae Saesneg, sy’n cynnwys geirfa eang dros ben yn barod, yn iaith sy’n datblygu’n gyflym iawn. Mae’n bosib y bydd rhai o’r geiriau yma yn medru cael eu cynnwys yn y fersiwn mwy ffurfiol cyhoeddedig o eiriadur Saesneg Rhydychen yn y dyfodol, fel geiriau fel hashtag a selfie, a cafodd eu hychwanegu ym mis Mehefin.