Siaradir 7,000 o ieithoedd yn y byd heddiw, ond amcangyfrifir gall tua hanner ohonynt ddiflannu erbyn 2100. Gyda chymaint o ieithoedd mewn perygl o ddifodiant, dydy hi ddim yn syndod bod yna nifer o ieithoedd ni chlywir sôn amdanynt! Darllenwch er mwyn dysgu am rai o ieithoedd y byd sydd mewn perygl, a restrwyd yn fregus, mewn perygl neu mewn difodiant gan UNESCO.
1. Occitan
Mae Occitan, neu Lenga d’òc, yn iaith Romáwns a siaradir yn ardaloedd yn ne Ffrainc, gogledd yr Eidal ac yng Nghatalonia. Mae’n perthyn yn agos i Gatalaneg. Mae yna tua 2 filiwn o siaradwyr Occitan wedi eu sgwaru dros chwe thafodiaith wahanol, Profensaleg, Auvergnat, Limousin, Languedocien, Gwasgwyneg a Vivaro-Alpine. Mae pob un o’r tafodieithoedd yma ar restr ieithoedd mewn perygl UNESCO. Yn yr Oesoedd Canol, bu troubadours yn ysgrifennu barddoniaeth yn Occitan, a heddiw gwelir arwyddion stryd dwyieithog yn rhai trefi yn ne Ffrainc, er enghraifft Toulouse.
2. Palenquero
Creoliaith yw Palenquero sy’n cael ei siarad gan tua 1,500 o bobl yng Ngholombia, yn benodol ym mhentref San Basilio de Palenque. Mae Palenquero wedi ei seilio ar Sbaeneg, a gafodd ei greu pan gymysgodd caethweision Sbaeneg gydag ieithoedd Affrica; gellir gweld dylanwad ieithoedd y Congo hyd yn oed heddiw. Fel nifer o ieithoedd mewn perygl, siaradir Palenquero yn bennaf gan genhedloedd hyn, gyda phobl ifanc yn ffafrio Sbaeneg.
3. Capanahua
Siaradir yr iaith frodorol Capanahua gan tua 120 o bobl ym Mheriw. Mae yna dwy ysgol ddwyieithog le defnyddir Capanahua ac mae’n cael ei dysgu i ryw raddau yn rhai ysgolion cynradd. Mae’n cael ei ystyried yn sarhad pan mae un siaradwr Capanahua yn siarad Sbaeneg gydag un arall, gan ei fod yn dangos bod y siaradwr yn gweld y person arall fel dieithryn a’i fod yn ei wrthod.
4. N|uu
Mae N|uu yn iaith oedd yn cael ei siarad yn Ne Affrica. Er bod 6 siaradwr N|uu ar ôl yn y byd yn 2013, dydy’r iaith ddim yn cael ei defnyddio’n ddyddiol achos dydy’r siaradwyr ddim yn byw yn yr un pentref. Mae N|uu yn iaith Khoisan, ac felly mae ganddi’r nodwedd fod y rhan fwyaf o’r cytseiniaid yn gliciau, a dweud y gwir mae’r symbol ‘|’ yn enw’r iaith yn dynodi clic. Er i N|uu ffynnu yn y 19eg ganrif, cymerodd Nama ac Afrikaans ei le pan ddechreuodd y siaradwyr adael y pentrefi i symud i’r trefi. Yr hoelen olaf yn arch yr iaith oedd pan gafodd y bobl ǂKhomani eu gyrru allan o Barc Cenedlaethol y Calahari. Fe wasgaron nhw ar draws De Affrica a Botswana, a heddiw does dim un siaradwr yr iaith yn byw gyda siaradwr arall.
5. Konkow
Dim ond 3 siaradwr Konkow sydd ar ôl yng Nghaliffornia heddiw, sy’n ei wneud yn iaith mewn perygl difrifol. Ar un adeg mi oedd yna 9 tafodiaith Konkow, yn cynnwys Tsierocî, Mikchopdo a Bidwell Bar. Mae tafodiaith newydd, Konkow Modern, nawr yn cael ei defnyddio gan rai Indiaid America yng Nghaliffornia ac mae gwersi iaith i gael ar DVD. Mae’r fersiwn modern wedi ei seilio ar dafodiaith Tsierocî, ond mi ellir lawr lwytho gwersi yn nhafodiaith Mechoopda, yn ogystal ag ap i helpu plant i ddysgu Konkow.
…. ac un mi fyddwch chi wedi clywed am
Manaweg
Ond dydy’r ieithoedd yma ddim tu hwnt i obaith, fel mae Manaweg yn profi. Bu farw siaradwr brodorol olaf Manaweg, Ned Maddrell, ym 1974, ac fe ddosbarthodd UNESCO’r iaith fel ‘wedi marw’ ym mis Chwefror 2009. Serch hynny, mae’r iaith wedi cael ei adfywio, a heddiw mae yna tua 600 o siaradwyr. Ym mis Awst 2009, gorfodwyd UNESCO i ailfeddwl eu penderfyniad a newidiwyd statws Manaweg i ‘mewn perygl difrifol’ ar ôl i ddisgyblion ysgol Manaweg ysgrifennu llythyrau atynt yn gofyn “Os yw ein hiaith ni wedi marw, ym mha iaith ydyn ni’n ysgrifennu?”, sy’n dangos nad oes rhaid i farwolaeth fod yn y diwedd i bob iaith.