Mae 25 Ionawr yn Ddydd Santes Dwynwen, santes y cariadon yng Nghymru. Mae’r canlynol yn un o fersiynau chwedl Dwynwen: yn y 5ed Ganrif, trefnwyd i Dwynwen, un o ferched y Brenin Brychan Brycheiniog, briodi’r Tywysog Maelon. Ni pharchodd Maelon ddymuniad Dwynwen i aros yn bur tan y briodas ac ymosododd arni. Yn gosb, rhewodd Duw ef yn ddarn o rew. Yna, rhoddwyd tri dymuniad i Dwynwen, un ohonynt oedd dadmer Maelon, yr ail oedd i Dduw fendithio pob un sydd mewn cariad a’r olaf oedd na fyddai byth yn priodi.
Saif eglwys Dwynwen yn harddwch Ynys Llanddwyn. Defnyddiwyd yr ynys, y gellir cerdded iddi pan fo’r llanw’n isel, yn lleoliad ffilm Hollywood o’r enw Half Light gyda Demi Moore yn seren. Tan y Diwygiad Protestannaidd, ac efallai wedi hynny, roedd llawer o bobl leol yn addoli Dwynwen. Daeth ei heglwys yn safle pererindod poblogaidd ac yn gyrchfan i gariadon ifanc. Credid hyd yn oed fod i’r ffynnon alluoedd iachaol a bod ynddi bysgod a oedd yn gallu darogan a ddylai merch ymddiried yn ei chariad.
Cafodd y chwedl ei hadfywio yn y 1960au a’r 70au gan y mudiad iaith. Dethlir Dydd Santes Dwynwen bellach gyda digwyddiadau arbennig ac mewn ysgolion. Gellir prynu cardiau masnachol hefyd, er nad ydynt mor gyffredin â chardiau Dydd Sant Ffolant. Dywed un blogiwr iddo fynd i Asda ar ôl gweld eu hysbyseb am gerdyn Dwynwen, ond nad oedd gan staff yr archfarchnad syniad am beth roedd yn sôn.
Os nad ydych yn hoff o bethau masnachol, beth am ddewis cyflawni gweithred garedig i’ch anwylwyd ar y diwrnod arbennig hwn? Cerfio llwy garu yw’r traddodiad canlyn enwocaf yng Nghymru. Byddai dynion yn cerfio’r rhain i’w cariadon ac yn eu haddurno gyda symbolau gwahanol. Yr allwedd i’r galon yw arwyddocâd allweddi, gweithio’n galed yw olwynion a nifer y darpar blant yw gleiniau. Defod ffrwythlondeb a fenthycwyd gan y Romani Cymreig (sipsiwn) oedd neidio dros yr ysgub, traddodiad a ddeallir heddiw i olygu dianc i briodi. Roedd “cipio’r” briodferch ar ddiwrnod ei phriodas hefyd yn ffurf boblogaidd ar ddrygioni.