Yn 2013 datganwyd canlyniadau atebion i’r cwestiwn “Beth yw eich prif iaith?” a gafodd ei gynnwys yng Nghyfrifiad 2011. Mae’r tabl isod yn cynnwys gwybodaeth sydd yn ymddangos ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Yn gyffredinol yng Nghymru a Lloegr, Pwyleg oedd ar y brig ymhlith yr ieithoedd tramor. Er hynny, yma yng Nghaerdydd Arabeg yw’r iaith dramor gyda’r nifer fwyaf o siaradwyr, mae Pwyleg ail yn y rhestr. Yn ogystal, yn Wrecsam mae’r nifer fwyaf o siaradwyr Pwyleg, gyda Chaerdydd, y brif ddinas, yn rhestru chweched.
91.7% o’r atebwyr sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith. Mae’r mwyafrif o bobl a gofnododd iaith arall fel eu prif iaith hefyd yn gallu siarad Saesneg – dim ond 0.3% o atebwyr Cyfrifiad 2011 yng Nghaerdydd hawliodd nad oeddent yn gallu siarad Saesneg o gwbl.
Cynyddodd canran y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd i 11.1%, o’i gymharu â 11.0% yn 2001, sy’n wahanol i’r lleihad cyffredinol a drafodwyd mewn blog cynharach. Cymraeg oedd prif iaith Caerdydd rhwng yr 1300au a’r cyfnod o dwf yn y 19eg ganrif. Erbyn 1891, roedd canran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i 27.9% a Llysfaen, Llanedern a Chreigiau oedd yr unig gymunedau ar ôl lle’r oedd y mwyafrif yn siarad Cymraeg. Parhaodd y cwymp yma tan Gyfrifiad 2001, lle bu cynyddiad bach o’i gymharu â 1991.
Yn ogystal â Chymraeg a Saesneg, mae nifer o ieithoedd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd dros y canrifoedd gan gynnwys Ffrangeg Normanaidd a Hen Norwyeg. Mae safle Caerdydd fel porthddinas yn golygu bod nifer o gymunedau ymfudwyr hir sefydlog yma, er enghraifft rhai o’r Yemen a Somalia. Fel y gwelir o’r tabl, mae Arabeg a Somalieg yn parhau i fod ymhlith 5 prif iaith y ddinas. Mae ieithoedd isgyfandir India hefyd â chynrychiolaeth dda yn y ddinas, gyda Bengaleg â’r nifer fwyaf o siaradwyr. Mae gan ieithoedd Gorllewin Ewrop bresenoldeb cryf yng Nghaerdydd, gan gynnwys Ffrangeg, Portiwgaleg, Sbaeneg, Eidaleg, Groeg ac Almaeneg, yn y drefn yna. Mae ieithoedd Dwyrain Ewrop hefyd yn bresennol. Pwyleg sydd â’r nifer fwyaf o siaradwyr, gyda Tsieceg, Slofaceg, Hwngareg, Rwmaneg a Lithwaneg yn dilyn. Mae ieithoedd Tsieinëeg hefyd yn amlwg, ieithoedd Tsieinëeg amrywiol sydd â’r nifer mwyaf o siaradwyr, gyda Cantoneg a Mandarin yn dilyn.
Os hoffech chi ddysgu iaith arall, mae’n werth ystyried sut hoffech chi ddysgu, yn ogystal â pha iaith yr hoffech chi ddysgu. Mae Business Language Services yn darparu cyrsiau pwrpasol wedi’u haddasu at eich anghenion chi yn yr ieithoedd yma a nifer o rai eraill. Mae dysgu mewn grŵp bach neu un i un yn golygu dydych ddim yn gwastraffu amser ar weithgareddau sydd ddim o ddiddordeb i chi, ac mae mwy o amser yn cael ei wario yn ceisio cyrraedd eich nodau personol. Cysylltwch â ni er mwyn trafod eich anghenion a diddordebau penodol.
Iaith
| Nifer | Canran |
Saesneg (yn cynnwys siaradwyr Cymraeg) | 304,729 | 91.7 |
Cymraeg | 36,735 | 11.1 |
Arabeg | 3561 | 1.1 |
Pwyleg | 2650 | 0.8 |
Bengaleg | 2431 | 0.7 |
Tsieinëeg (heblaw am Fandarin neu Cantoneg) | 1703 | 0.5 |
Somalieg | 1393 | 0.4 |
Wrdw | 1214 | 0.4 |
Ffrangeg | 766 | 0.2 |
Perseg/Farsi | 734 | 0.2 |
Portiwgaleg | 682 | 0.2 |
Pwnjabeg | 643 | 0.2 |
Gwjarati | 610 | 0.2 |
Tsieceg | 601 | 0.2 |
Sbaeneg | 597 | 0.2 |
Eidaleg | 549 | 0.2 |
Cwrdeg | 540 | 0.2 |
Pashto (Afghanistan, Pacistan) | 536 | 0.2 |
Groeg | 529 | 0.2 |
Hindi | 525 | 0.2 |
Almaeneg | 434 | 0.1 |
Slofaceg | 423 | 0.1 |
Malaialam (India) | 417 | 0.1 |
Maleieg (Malaysia, Indonesia, Brunei) | 383 | 0.1 |
Tagalog/Ffilipino | 382 | 0.1 |
Cantoneg | 360 | 0.1 |
Tamil (India/Sri Lanka) | 325 | 0.1 |
Rwsieg | 286 | 0.1 |
Mandarin | 258 | 0.1 |
Hwngareg | 256 | 0.1 |
Rwmaneg | 212 | 0.1 |
Telwgw (India) | 196 | 0.1 |
Lithwaneg | 192 | 0.1 |
Iseldireg | 180 | 0.1 |
Thai | 174 | 0.1 |
Japaneg | 173 | 0.1 |