Map of Wales with a pin pointing to Wrexham
Welcome to Wrexham

Nid yw’n gyfrinach bod Rob McElhenney a Ryan Reynolds wedi helpu i enwogi Wrecsam a Chymru. Fel ieithyddion, mae gan tîm Business Language Services ddiddordeb arbennig mewn sut mae’r rhaglen Welcome to Wrexham wedi helpu i hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Mae’r gyfres Disney+ bob amser wedi ceisio cofleidio, egluro a dathlu’r iaith Gymraeg a’i siantiau, caneuon a dywediadau. Ond teimlir effaith Wrecsam ymhell y tu hwnt i ffiniau Cymru.

There are many proud Welsh football fans in Patagonia

Yng nghyfres 3 y rhaglen, rydym yn cwrdd â grŵp o gefnogwyr Wrecsam o Batagonia. Er eu bod erioed wedi bod i Gymru, maent yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn cofleidio diwylliant a thraddodiadau Cymru yn llawn. Mae perchnogion enwog y clwb yn trefnu i’r cefnogwyr ymweld â Chymru am y tro cyntaf. Dogfennodd United Airlines y daith arbennig hon yn eu rhaglen ddogfen ReUnited. Mae’n enghraifft syfrdanol a thrawiadol o sut mae iaith a diwylliant yn cysylltu pobl ar draws y byd.

Gwelsom hefyd sut mae’r clwb wedi gweithio gydag ysgolion lleol, Hewlett Packard a’r cyhoeddwr amlieithyddol NABU i gyhoeddi Y Ddraig Lwcus, stori wedi’i chynllunio i ysbrydoli cenedlaethau o ddarllenwyr Cymreig ifanc.

Wrexham AFC's badge
Clwb Pêl-droed Wrecsam

Rydym bob amser wedi bod yn falch bod ein gwasanaethau yn helpu ein cwsmeriaid i gyfathrebu ar raddfa fyd-eang, ac rydym yn angerddol am gysylltu pobl drwy iaith. Gyda hyn mewn golwg, gwnaethom ymuno â GlobalWelsh yn ddiweddar, cymuned fyd-eang gyda Chymru wrth ei gwraidd. Mae BLS yn rhannu gweledigaeth Global Welsh, sef cysylltu pobl sydd â chariad ar y cyd tuag at Gymru, diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.

Fel arbenigwyr mewn cyfieithu Cymraeg a hyrwyddwyr yr iaith, mae tîm BLS wrth ein bodd â’r angerdd mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn ei ddangos tuag at yr iaith Gymraeg a sut mae’n helpu i dynnu sylw at Gymru ar lwyfan mawr y byd.

I ddysgu rhagor am ein gwasanaethau iaith Gymraeg, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â’n tîm Cymraeg heddiw.

 

Awdur: Lizzie De Benedictis, Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid

Cyfieithiad gan Sarah Boyd, Uwch Swyddog yr Iaith Gymraeg