Yn enedigol o Gaerdydd, bydd seren y byd pêl-droed Gareth Bale, y chwaraewr pêl-droed mwyaf gwerthfawr yn hanes, yn dychwelyd i´w gartref ar y 12fed o Awst ar gyfer cwpan Ewropeaidd UEFA 2014 – y ‘Super Cup’. Bydd Bale yn serennu yn nhîm enillwyr Cynghrair y Pencampwyr UEFA, Real Madrid CF, a fydd yn erbyn enillwyr Cwpan Europa UEFA, Sevilla FC, wrth i Stadiwm Dinas Caerdydd gynnal y clash Sbaeneg cyffrous.
Caerdydd fydd ond yr ail ddinas tu allan i Monaco i gynnal y digwyddiad yma ers 1995 ac mae´r ddinas yn prysur baratoi am y llwythi o aficionados Sbaeneg a fydd yn llifo trwy strydoedd a bariau canol y ddinas.
Ar ôl symud i Fadrid llynedd i ymuno â Galácticos llwyddiannus Real Madrid, fe synnodd Bale pawb wrth siarad Sbaeneg yn ystod ei gyflwyniad i’r tîm mewn stadiwm lawn o gefnogwyr Real. Gall Bale gweld ei hun yn ymddwyn fel cyfieithydd rhwng Sbaeneg a Saesneg ar ran rhai o’i gyd-chwaraewyr Sbaeneg trwy gydol eu hymweliad!